AMDANOM NI
ALASPROS.Cyf – CRYNODEB RHEOLI
ARFERION MASNACHU
Nod y cwmni yw masnachu mewn modd moesegol, gonest a didwyll er mwyn sicrhau bod ein cwsmeriaid yn hollol fodlon â’n gwasanaeth. Dylai hyn sicrhau elw realistig i gynnal twf y cwmni yn y dyfodol.
ESBONIAD O ENW’R CWMNI
AL - Alwyn Griffith. Rheolwr Gyfarwyddwr
AS - as
PRO - promised
S - services
Yn ogystal â’r cysylltiad â gwyn yn Alwyn, Aspro yw gwyn yn iaith Groeg.
Ein prif nod yw gweithio law yn llaw â chwmnïau a gweithwyr proffesiynol dibynadwy o Gymru ac Ewrop i ateb anghenion ein cwsmeriaid yn y ffordd orau bosibl.
Mae arferion masnachu yng Ngwlad Groeg yn sicrhau na fydd effaith negyddol ar iaith, diwylliant, crefydd, amgylchedd, economi a phobl Gwlad Groeg a gwneir pob ymdrech i’w cyfoethogi a chreu cyfleoedd cadarnhaol i gyfathrebu, masnachu ac ennyn parch rhwng y naill a’r llall.
Alwyn Griffith, Rheolwr Gyfarwyddwr Alaspros
