CYNGOR
YSTYRIED PRYNU EIDDO YN EWROP/GWLAD GROEG?
Gallai un alwad ffôn arbed llawer o arian a gofid i chi.
Gwasanaeth ymgynghori yn arbennig i chi.
Dwi ddim yn arbenigwr ariannol nac yn arbenigwr cyfreithiol a dwi’n gwybod y nesa peth at ddim am adeiladu. Felly pa gyngor allith hwn ei roi, meddech chi.
Wel, mae’n syml. Dwi wedi cael profiad helaeth o’r farchnad prynu a gosod eiddo gwyliau yng Ngwlad Groeg yn y 5 mlynedd ddiwethaf. Dwi wedi prynu 2 eiddo i mi fy hun yn ystod y cyfnod hwnnw.
Trodd y broses o brynu un ohonynt yn hunllef llwyr a gallai’r hwch fod wedi mynd drwy’r siop. (Dyna ddigwyddodd yn achos rhai o’m darpar gymdogion). Dair blynedd yn ddiweddarach, mae llawer o broblemau heb eu datrys o hyd.
Roedd pethau’n llawer mwy hwylus yr eildro. Roedd ambell i broblem fach ond dwi’n gallu chwerthin amdanyn nhw nawr. Rhaid i chi allu gweld ochr ddoniol pethau i fwynhau Gwlad Groeg i’r eithaf a diolch i hyn, dwi wedi llwyddo i ddysgu am system brynu’r wlad. Dwi wedi llwyddo i gael profiad gwerthfawr a dysgu llawer trwy drafod gyda datblygwyr, adeiladwyr, cyfreithwyr, gwerthwyr eiddo, banciau ac ati.
Mae llawer o sefydliadau’n cynnig cyngor a hwnnw’n gyngor da ar y cyfan ond ychydig iawn ohonynt sy’n rhoi cyngor diduedd. Er enghraifft, mae llawer ohonynt yn gysylltiedig â datblygwr penodol. Bydd y cyngor a gewch gan Alaspros Cyf yn hollol annibynnol ac yn ateb eich gofynion a’ch disgwyliadau penodol chi.
Yn y bôn, dwi wedi dysgu o’m camgymeriadau a dwi am rannu fy ngwybodaeth i wneud pethau’n haws i chi.
Gwasanaeth gwych arall gan Alaspros Cyf ar y cyd â’n partner Smart Currency Exchange Cyf.
Cyn prynu eiddo dramor, bydd angen i chi brynu arian tramor i dalu amdano. Mae dwy ffordd o brynu a throsglwyddo arian tramor – gallwch chi ddefnyddio’ch banc ond rydyn ni’n argymell defnyddio gwasanaeth cyfnewid arian tramor arbenigol.
Dyma fanteision defnyddio arbenigwr arian tramor yn hytrach na banc:
- Gallwch arbed hyd at 4% ar gost arian tramor trwy gael cyfraddau gwell nag y cewch chi gan fanc. Pe baech chi’n gwario £100,000, gallech chi arbed hyd at £4,000.
- Gallwch siarad ag arbenigwr arian tramor yn hytrach na staff banc – mae’n bosibl na fyddan nhw’n gyfarwydd â’r marchnadoedd arian tramor. Gall arbenigwyr eich helpu chi i benderfynu ar strategaeth i brynu arian tramor ar yr adeg gywir am y pris cywir.
- O ddefnyddio gwasanaethau arbenigol, bydd eich arian yn cael ei drosglwyddo o fewn diwrnod neu ddau yn hytrach na 3-5 diwrnod pe baech chi’n defnyddio banc. Hefyd, gall cwmnïau arian tramor ddileu ffioedd trosglwyddo a derbyn a godir gan y rhan fwyaf o fanciau tramor. Ni fyddai’ch banc yn gallu gwneud hyn.
- Byddwch chi’n gallu rhewi’r gyfradd cyfnewid arian tramor gyfredol (os yw’n gyfradd dda) fel y gallwch chi NEILLTUO arian ar gyfradd heddiw a thalu amdano maes o law. Bydd hyn yn lleddfu unrhyw bryderon gan na fydd pris prynu’ch eiddo yn newid os yw’r gyfradd yn newid.
- Os oes gennych chi gyllideb benodol a’ch bod am sicrhau nad yw pris eich eiddo yn cynyddu a/neu’ch bod am gael y cyfraddau gorau wrth brynu arian, y peth doethaf, heb os, fyddai trafod eich gofynion gydag arbenigwr cyfnewid arian tramor.


