DISGWYLIADAU AC AMCANION

 

Mae’n hollbwysig i chi bwyso a mesur pa fanteision a phleserau rydych chi’n eu disgwyl gan eich eiddo a bod y rhain yn glir yn eich meddwl. Gorau i gyd os wnewch chi ysgrifennu rhestr.
Peidiwch â mynd dramor i weld beth sydd ar gael neu gael eich denu i ymweld ag eiddo heb fod gennych chi ddisgwyliadau pendant am yr hyn rydych chi ei eisiau mewn gwirionedd.
Meddyliwch am yr hyn rydych chi am ei gyflawni nawr ac yn y dyfodol.