Fflat llawr cyntaf Paradisos


SKU: Paradisos

Llety drwy’r flwyddyn gyfan ar gael fel rhan o wasanaeth ymgynghorol Alaspros yn y mannau canlynol

 Paradisos - Llawr Cyntaf ·        

  • Ar gyfer chwilio am dai drwy’r flwyddyn gyfan.
  • Neu am brofiad dilys o fyw ar ynys Rhodos cyn gwneud penderfyniad i brynu.

Gellir hurio car a chael trafnidiaeth o’r maes awyr ac yn ôl drwy’r flwyddyn, hefyd

 

Mae’r fflat 1.5 KM o bentref Haraki neu “Charaki” ar arfordir dwyreiniol ynys brydferth Rhodes. Tua 35 munud o daith mewn car yw’r fflat o’r maes awyr a thref Rhodes a 10 munud o Lindos. Dyma fan cychwyn delfrydol i grwydro’r ynys.

 

Mae’r fflat ar y llawr cyntaf ac yn un o bedwar. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys gardd fawr hardd sy’n cael ei chynnal a’i chadw, pwll nofio, llecyn torheulo, maes parcio a man barbiciw.
Mae’r fflat mewn ardal dawel ond mae yna ffordd ddiogel wedi’i goleuo’n dda yn arwain i ganol y pentref.
Y tu mewn i’r fflat mae ystafell fyw agored fawr, cegin fodern a balconi mawr lle gallwch fwynhau golygfeydd ysblennydd o fae Lindos a’r Castell. Mae yna ddau wely sengl yn yr ystafell wely fawr gyda balconi â golygfa arall drawiadol o’r mynyddoedd y tu cefn i’r eiddo. Mae digon o le yn yr ystafell ymolchi sydd â chawod a chaban modern. Mae’r fflat wedi’i ddodrefnu’n gyfforddus ac wedi’i hadeiladu i safon uchel iawn.
Gallwch ddewis o blith tri thraeth, oll o fewn 20 munud ar droed o’r fflat.

 

Mae’r fflat yn cynnwys popty modern / ffan echdynnu, oergell/rhewgell, peiriant golchi, popty ping, bwrdd a haearn smwddio, sychwr gwallt, teledu – sianeli Gwlad Groeg yn unig, peiriant DVD ac offer cerddoriaeth.
Mae yna system dymheru yn yr ystafell wely a’r ystafell fyw. Darperir dillad gwely a thywelion a byddant yn cael eu newid bob 3 neu 4 diwrnod, ond dewch â’ch tywelion eich hun ar gyfer y pwll ac ati.

 

Ychydig iawn o fysys sy’n mynd i Haraki bob dydd ond os cerddwch chi ryw 5 munud i’r brif ffordd rhwng Lindos a thref Rhodes mae bysys bob hanner awr o leiaf.