Pauls Garden
Mae’r fflatiau hyn yn cynnig gwerth gwych am arian. Maen nhw’n lân iawn ac yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda. Mae’r fflat mawr un ystafell yn un o wyth yn y bloc. Saif yr adeilad mewn ardal dawel ond mae ffordd ddiogel wedi’i goleuo’n dda yn arwain i ganol y pentref. Gallwch gerdded i ganol Haraki mewn llai na 10 munud ar hyd lan y môr a gallwch gyrraedd y traeth mewn 3 munud.
Ystafell wely – 2 wely sengl a gellir darparu un arall ar gais.
Ystafelloedd ymolchi – Mae yna ystafell gawod fodern a glân gyda thoiled a basn ymolchi.
Cegin fach yn cynnwys offer coginio syml, dau gylch coginio ac oergell gyda chwpwrdd rhew bach.
Ystafelloedd Byw Dau wely sengl, bwrdd gwisgo a stôl, sychwr gwallt, teledu, cistiau ochr gwely a wardrob sy’n cynnwys coffor â chlo.
Glanhau/tywelion/dillad gwely/gwasanaeth morwyn Caiff yr ystafell ei glanhau a’r dillad gwely a’r tywelion eu newid bob 3 neu 4 diwrnod. Caiff yr ystafell, yr ardd a’r ardal gyfagos eu cynnal a’u cadw’n dda gan Paul a’i deulu sydd hefyd yn gofalu am y 7 ystafell arall.
Prisiau ar gyfer Paul's Gardens
Prisiau arbennig ar gyfer 2008
Prisiau ar gyfer 7 noson
Mai/Mehefin 233 Ewro
Gorffennaf/Awst 303 Ewro
Medi/Hydref 233 Ewro
Codir tâl ychwanegol o 3 Ewro y dydd am system dymheru.
Mae gwely ychwanegol yn 80 Ewro.
Diwrnod cyrraedd/gadael
Unrhyw ddiwrnod yn dibynnu ar archebion. Rhaid gadael yr ystafell erbyn hanner dydd y diwrnod rydych chi’n gadael os oes gwesteion eraill yn cyrraedd.
Cysylltwch â M&S Car Hire i gael ystafell i adael eich bagiau a newid ac ati ar gyfer eich taith adref. Ni chodir tâl am hyn.
Amodau Archebu
Mae angen blaendal o £40 am bob wythnos y byddwch yn aros i gadarnhau’ch archeb. Ni fyddwch yn cael y blaendal yn ôl os byddwch yn canslo’ch archeb ond gallwch ei drosglwyddo i rywun arall sydd am aros yn yr eiddo yn eich lle. Rhaid talu’r gweddill ar ôl cyrraedd y fflat.
Gweld pryd mae Fflat Un ar gael.
Gweld pryd mae Fflat Dau ar gael.

